Senedd Cymru 
 Y Swyddfa Gyflwyno
  
 Adroddiad Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol
 

 

 

 

 


Manylion y Grŵp Trawsbleidiol

Teitl y Grŵp Trawsbleidiol:

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS)

Aelodaeth y Grŵp a deiliaid swyddi

Enw Cadeirydd y Grŵp:

Mike Hedges AS

Enwau Aelodau eraill o’r Senedd:

Heledd Fychan AS (Is-Gadeirydd); Rhys ab Owen AS; John Griffiths AS; Altaf Hussain AS; Huw Irranca-Davies AS; Carolyn Thomas AS.

Enw'r Ysgrifennydd a’i sefydliad:

Darren Williams, PCS

Enwau'r aelodau allanol eraill a'r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli:

Siân Boyles, Doug Jones, Marianne Owens, Jayne Smith (PCS)

 

 

 

 

Cyfarfodydd eraill y Grŵp ers y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf

Cyfarfod 1

Dyddiad y cyfarfod:

9 Tachwedd 2021

Yn bresennol:

Mike Hedges AS (Cadeirydd); Heledd Fychan AS (Is-Gadeirydd); Ryland Doyle (aelod o Staff Cymorth Mike Hedges); Carys Morgan-Jones (Staff Cymorth i Aelod); Siân Boyles (PCS); Marianne Owens (PCS); Siân Wiblin (PCS); Darren Williams (PCS).

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

Anghydfod yr Asiantaeth Drwyddedu Gyrrwyr a Cherbydau (DVLA) ynghylch diogelwch yn y gweithle o ran Covid-19; diweddariad ar drosglwyddo swyddi’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i ganolbwynt newydd yn Nhrefforest; diweddariad ar gyflog 2021/22 ac ar symudiadau tuag at gydlyniaeth o ran cyflog rhwng gwahanol gyflogwyr; pryderon ynghylch ariannu'r Sector Diwylliant yng Nghymru; rhoi Plas Menai, canolfan awyr agored genedlaethol Chwaraeon Cymru ar gontract allanol; camau i sefydlu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd; yr ymgyrch Di-Garbon Net a’r ymgyrch Pontio Teg; ymgais barhaus i ailedrych ar gynllun ymadael gwirfoddol 2017 Llywodraeth Cymru yng ngoleuni’r dyfarniad cyfreithiol dilynol.

Cyfarfod 2

Dyddiad y cyfarfod:

1 Mawrth 2022

Yn bresennol:

Mike Hedges AS, Ryland Doyle (Staff Cymorth AS), Marianne Owens (PCS), Jayne Smith (PCS), Sian Wiblin (PCS).

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

Ymgyrch genedlaethol PCS ar gyflog a phensiynau; y wybodaeth ddiweddaraf am gyflogau’r sector datganoledig yng Nghymru; materion diogelwch Covid-19 yn y gweithle yn yr Asiantaeth Drwyddedu Gyrrwyr a Cherbydau (DVLA), a’r Adran Gwaith a Phensiynau; defnydd posibl o ddulliau 'diswyddo ac ail-gyflogi' gan Archwilio Cymru i sicrhau newidiadau i lwfansau; diweddariad ar gontract allanol Chwaraeon Cymru; mater ymadael gwirfoddol Llywodraeth Cymru; goblygiadau agenda 'Ffyniant Bro' Llywodraeth y DU i Gymru.

Cyfarfod 3:

Dyddiad y cyfarfod:

6 Gorffennaf 2022

Yn bresennol:

Mike Hedges AS; Heledd Fychan AS; Ryland Doyle, Staff Cymorth AS; Jayne Smith (PCS); Darren Williams (PCS).

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

Ymgyrch genedlaethol PCS ar gyflog a phensiynau; adolygiad Llywodraeth y DU o gyrff hyd braich a bygythiad i swyddi yn y gwasanaeth sifil; diweddariad ar gyflog y sector datganoledig yng Nghymru; Diweddariad ar Covid-19 yn y Gweithle; bygythiad o ran Archwilio Cymru a'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn defnyddio dulliau 'diswyddo ac ail-gyflogi'; diweddariad ar gontractau allanol Chwaraeon Cymru.

Cyfarfod 4:

Dyddiad y cyfarfod:

7 Rhagfyr 2022

Yn bresennol:

Mike Hedges AS (Cadeirydd); Heledd Fychan AS (Is-Gadeirydd); Ryland Doyle (aelod o Staff Cymorth Mike Hedges); Siân Boyles (PCS); Jayne Smith (PCS); Ian Thomas (PCS);  Darren Williams (PCS).

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

Anghydfod cenedlaethol PCS dros gyflog, pensiynau, swyddi a hawliau dileu swydd; diweddariad ar gyflog y sector datganoledig yng Nghymru; Diweddariad ar gontractau allanol Chwaraeon Cymru; Anghydfod 'Platfform Cyffredin' y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

 

 

 

 

 

Cyfarfod 5:

Dyddiad y cyfarfod:

12 Gorffennaf 2023

Yn bresennol:

Mike Hedges AS (Cadeirydd); Heledd Fychan AS (Is-Gadeirydd); Ryland Doyle (aelod o Staff Cymorth Mike Hedges); Helen West (aelod o Staff Cymorth Julie Morgan); Jayne Smith (PCS); Darren Williams (PCS).

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

Anghydfod cenedlaethol PCS dros gyflogau, pensiynau, swyddi a hawliau dileu swydd; diweddariad ar gyflogau yn sector datganoledig yng Nghymru; Diweddariad ar gontractau allanol Chwaraeon Cymru; pryderon ynghylch bwriad y DVLA i roi'r gorau i ariannu'r gwasanaeth bws gwennol; trafod y posibilrwydd o ddod ag arlwyo’r Senedd yn fewnol.

 

Cyfarfod 6

Dyddiad y cyfarfod:

30 Ionawr 2024 – Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a chyfarfod busnes

Yn bresennol:

Mike Hedges AS (Cadeirydd); Heledd Fychan AS (Is-Gadeirydd); Ryland Doyle (aelod o Staff Cymorth Mike Hedges); Helen West (aelod o Staff Cymorth Julie Morgan); Siân Boyles (PCS); Doug Jones (PCS); Jayne Smith (PCS); Darren Williams (PCS).

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

Busnes y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol – ethol cadeirydd ac is-gadeirydd, cydymffurfio â rheolau llywodraethu Grwpiau Trawsbleidiol y Senedd; anghydfod cenedlaethol PCS dros gyflog, pensiynau, swyddi a hawliau dileu swydd; diweddariad ar gyflog y sector datganoledig yng Nghymru; pryderon sy’n deillio o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25, o ran staffio ac ystadau Llywodraeth Cymru, y sector Diwylliant, TUC Cymru a Chronfa Ddysgu Undebau Cymru; siarter iaith Gymraeg TUC Cymru; trefniadau gwneud penderfyniadau datganoledig newydd y PCS; gweithredu diwydiannol arfaethedig yn yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrrwyr a Cherbydau (DVLA) .

 

Lobïwyr proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennau y mae’r Grŵp wedi cyfarfod â hwy yn ystod y flwyddyn flaenorol.

[Rhowch enwau'r lobïwyr/sefydliadau/elusennau fel a ganlyn, e.e.]

Enw'r mudiad:

Amherthnasol

Enw’r grŵp:

Amherthnasol


Enw'r mudiad:

Amherthnasol

Enw’r grŵp:

Amherthnasol


 

Datganiad Ariannol Blynyddol

Teitl y Grŵp Trawsbleidiol:

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS)

Dyddiad:

12/02/24

Enw’r Cadeirydd:

Mike Hedges AS

Enw'r Ysgrifennydd a’i sefydliad:

Darren Williams, PCS

Teitl

Disgrifiad

Swm

Treuliau’r Grŵp

Dim

£0.00

Costau’r holl nwyddau

Dim nwyddau wedi'u prynu

£0.00

Buddiannau a gafodd y grŵp neu Aelodau unigol gan gyrff allanol

Ni chafwyd buddiannau.

£0.00

Unrhyw gymorth ariannol neu gymorth arall.

Ni chafwyd cymorth ariannol.

£0.00

Cyfanswm

£0.00

Gwasanaethau a ddarparwyd i’r Grŵp, megis lletygarwch. Telir am yr holl letygarwch gan PCS.

Dyddiad

Enw’r darparwr
a disgrifiad o’r darparwr

Costau

7/12/22

Arlwyo ESS

£71.88

12/7/23

Arlwyo ESS

£61.86

30/1/24

Arlwyo ESS

£77.88

Cyfanswm

£211.62